Gorwel logo

0300 111 2121 | gorwel@gorwel.org

image
Toggle Menu

Beth mae pobl yn ddweud amdanom?

"Mae’n braf cael rhywun yno, sydd wedi rhoi cymaint o gymorth a chefnogaeth i mi i reoli fy arian a’m cartref."
"Maent bob amser yn mynd y filltir ychwanegol. Mae’r staff cefnogi wedi bod yn ffantastig – y ffordd maen nhw’n siarad efo chi a byth yn edrych i lawr arnoch chi."
"Cefais gefnogaeth emosiynol a chefnogaeth gyda phroblemau cael mynediad at fy mhlentyn. Bues i drwy’r llys a chefais help efo’r materion cyfreithiol. Maen nhw wedi bod yn fendith."
"Dwi’n derbyn cefnogaeth dda iawn, maen nhw yn sortio fy mhroblemau tai, wedi fy helpu trwy brofedigaeth, ac wedi fy rhoi mewn cysylltiad â’r tîm iechyd meddwl."
"Mae fy ngweithiwr cefnogi yn gwrando ac yn cymryd sylw. Dwi’n teimlo’n gyfforddus yn ei chwmni. Os nad ydi hi’n gwybod rhywbeth, mae’n dod yn ôl atai efo’r ateb."
"Allai ddim canu eu clodydd ddigon. Dwi ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi ei wneud hebddynt."
"Cefais gefnogaeth at weithgareddau hamdden er mwyn gwella fy iechyd meddwl – mynediad i’r clwb hwylio, gwersi cyfrifiaduron a grwpiau cerdded. Helpiodd fy ngweithiwr cefnogi i gael grant ar gyfer fy nhrwydded yrru. Dwi bellach nôl mewn gwaith, yn gweithio’n rhan-amser."
"Dwi’n teimlo’n fwy hyderus, ro’n i’n cael fy niweidio’n seicolegol heb fod yn gorfforol."