Gorwel logo

0300 111 2121 | gorwel@gorwel.org

image
Toggle Menu

Ein Prosiectau

Lloches a chefnogaeth mewn argyfwng

Mae gennym dair lloches i bobl sydd angen cefnogaeth i ddianc rhag trais yn y cartref yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Yn lleoliadau diogel, maent ar gael mewn argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched a’u plant ac mae darpariaeth hefyd ar gael ar gyfer dynion.

Mae’r Cynllun Cefnogaeth Symudol sydd gennym yn cefnogi merched, dynion a’u teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae ein hymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref yn cynnig cefnogaeth arbenigol ac ar gael i gefnogi unigolion. Trwy weithio gydag asiantaethau eraill fel Heddlu Gogledd Cymru, gallwn gefnogi unigolion sydd mewn sefyllfaoedd risg uchel.

Cefnogi Plant a Phobl Ifanc

Mae gennym ddarpariaeth arbenigol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n dioddef o effeithiau trais yn y cartref. Gallwn gynnig gwybodaeth, anogaeth a chefnogaeth emosiynol ar gyfer unigolion o fewn cymunedau yn Ynys Môn a Gwynedd.

Draw yn Nolgellau a Llangefni, mae ein Siop Un Stop yn cynnig gwasanaeth holistig i unigolion a theuluoedd sy’n dioddef o drais yn y cartref.
Uned gwybodaeth symudol yw Bws Gorwel sy’n cynnig gwasanaeth i ddioddefwyr trais yn y cartref sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, lle mae diffyg gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus.