Gorwel logo

0300 111 2121 | gorwel@gorwel.org

image
Toggle Menu

Gwasanaethau Atal Digartrefedd

Prosiect gyda chwech o fflatiau ym Mhwllheli yw Llys Seion, ac mae ar gael i unigolion a theuluoedd digartref er mwyn cynnig cefnogaeth a chyngor i fyw’n annibynnol. Mae’r Cynllun Cefnogaeth Symudol yn wasanaeth ar gyfer trigolion Gwynedd er mwyn cefnogi teuluoedd ac unigolion i fyw yn eu cartref yn llwyddiannus ac annibynnol.

Nod Cynllun Cydgysylltydd Digartref Gwynedd yw darparu gwasanaeth cefnogi tai o ansawdd ar gyfer pobl sengl a theuluoedd 16 oed a hyn sydd ag anghenion aml gefnogaeth. Gall hyn gynnwys digartrefedd, camddefnyddio sylweddau, cefndir o droseddu, iechyd meddwl a phroblemau anabledd dysgu lefel isel.

Mae prosiect Cynllun Pobl Hyn Ynys Môn yn darparu cymorth sy’n gysylltiedig â’r cartref i bobl 55 oed a hyn ar yr Ynys. Darperir y gwasanaeth saith diwrnod yr wythnos ac mae’n darparu cymorth tymor byr, tymor canolig a thymor hir i alluogi pobl hyn i fyw mor annibynnol a phosib. Fe’i cynigir i denantiaid cymdeithasol a phreifat yn ogystal â pherchnogionbreswylwyr.

Draw ym mhrosiect tai â chefnogaeth Hafod, yn Ninbych, gwasanaethir pobl ifanc Sir Ddinbych rhwng 16-25 oed sydd angen cymorth i gynllunio ar gyfer eu dyfodol trwy annog sgiliau rheoli tenantiaeth a chael mynediad at waith. Mae’r cynllun yn cydweithio’n agos gyda HWB Dinbych sy’n rhan o’r un adeilad. Eto yn yr Hafod, mae Cynllun Cefnogaeth Symudol ar gael i bobl ifanc 16-25 oed sydd angen cefnogaeth i sefydlu a chynnal eu tenantiaeth yn lleol.

Cynllun cefnogaeth arall yn Sir Ddinbych yw’r ddarpariaeth sydd gennym i gynorthwyo pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl. Yn gynllun symudol, mae ar gael i gefnogi unigolion sy’n dioddef o salwch meddwl ac angen cymorth i sefydlu a chynnal tenantiaeth o fewn eu cartrefi.

Yn yr adran yma: