Gorwel logo

0300 111 2121 | gorwel@gorwel.org

image
Toggle Menu

Prosiectau arloesol ‘cefnogaeth a mwy’

Mae Gorwel yn darparu gwasanaethau sy’n cynnig ‘cefnogaeth a mwy’ o fewn cymunedau. Mae pobl fregus yn werthfawr (nid yn faich); maent yn cymryd rhan (nid yn dioddef yn oddefol). Bydd ein gwasanaethau yn canolbwyntio ar alluoedd unigolion yn ogystal â’i anghenion.

Gardd Gymunedol Ynys Môn

Mae pobl hyn Ynys Môn yn codi rhawiau a ffyrch i ymladd unigrwydd mewn gardd gymunedol yn Llangefni, Ynys Môn. Mae’r prosiect yn rhan o ymdrech i leihau unigrwydd ac iselder ysbryd mewn pobl hyn, all gael eu hynysu.

Ceffylau’n helpu goroesi trais yn y cartref

Mae dioddefwyr trais yn y cartref yn Ynys Môn a Gwynedd yn adennill eu hyder a chael cefnogaeth i wella, diolch i’n cynllun arloesol sy’n defnyddio ceffylau. Mae merched ifanc ac oedolion yn gallu gweithio gyda cheffylau er mwyn eu helpu i feithrin hyder a sgiliau cyfathrebu, wedi achosion o gam-drin.

Agwedd holistaidd i helpu pobl ag anghenion cymhleth

Gallwn helpu pobl sydd ag anghenion aml gefnogaeth oherwydd problemau fel celcu, camddefnyddio sylweddau, troseddu, anabledd dysgu lefel isel neu anghenion iechyd meddwl, trwy gynnig gwasanaeth cymorth ‘symudol’ sy’n gysylltiedig â thai. Mae’r gwasanaeth ar gael i denantiaid cymdeithasol a phreifat yng Ngwynedd, yn ogystal â pherchnogion tai. Mae’n fenter arloesol sy’n darparu cefnogaeth ddwys, i helpu’r bobl fwyaf bregus i fyw mor annibynnol â phosib trwy fynd i’r afael â’u holl broblemau gyda’i gilydd.