Gorwel logo

0300 111 2121 | gorwel@gorwel.org

image
Toggle Menu

Pwy ydyn ni?

Uned fusnes ydyn ni o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i:

1. gefnogi pobl sy’n dioddef trais yn y cartref
2. gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd

Rydyn ni’n gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae ein prosiectau’n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref.

Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 500 o bobl yr wythnos, ac mae gennym dros 60 o staff cyflogedig proffesiynol.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.